Cyrraedd Yr Ysgol
Mae diogelwch plant yn fater pwysig iawn i ni yn Ysgol Llanystumdwy ac mae’n hynod bwysig i’r Corff Llywodraethol ac i’r staff ein bod yn cadw cofnod o’r sawl sy’n mynd i mewn ac allan o’r ysgol oherwydd hyn. Mae’r drefn isod yn sicrhau eich bod fel rhieni yn gallu teimlo’n hyderus yn y systemau sydd ar waith, ond hefyd cadw cyswllt â staff yr ysgol – mae’r ddau beth yma yn holl bwysig i ni.
- Bore – Fel y nodir uchod ac yn dilyn canllawiau’r sir mae aelod o staff ar ddyletswydd o 8.50am ymlaen bob dydd. Oherwydd nad yw’n ofynnol i staff fod allan ar y buarth cyn hyn atgoffwn chi i beidio a gollwng eich plentyn cyn yr amser yma gan na fydd goruwchwyliaeth ar eu cyfer. Os yw eich plentyn yn dod i’r Clwb Brecwast yna dylent ddod i’r Neuadd yn syth pan meant yn cyrraedd yr ysgol.
- Rydym yn awyddus i’r holl blant ddod yn fwy annibynnol wrth gyrraedd yr ysgol, ac i’r perwyl hyn gofynnwn i chi annog eich plentyn i’ch gadael ar y buarth ac i fynd i mewn i’r ysgol a rhoi eu côt, bag darllen a photel ddŵr yn eu lle yn annibynnol.
- Os oes angen dychwelyd llythyron gofynnwn i chi roi hwn i’r aelod staff fydd ar yr iard neu ym mag eich plentyn. Bydd yr athrawon dosbarth / cymorthyddion yn gofyn i’r plant os oes arian yn eu bag wrth gofrestru yn y bore.
- Os oes ganddoch neges ar gyfer aelod o staff, gofynnwn i chi siarad efo’r aelod staff sydd ar yr iard os gwelwch yn dda. Mae’r amser ar ddechrau’r diwrnod yn amser prysur i’r staff dysgu, ac yn gyfle i baratoi gweithgareddau’r diwrnod neu i gynnal cyfarfod staff felly yn anffodus does dim amser pob tro i gael sgwrs am faterion pwysig. Mi fydd yr aelod staff ar yr iard yn gwneud nodyn o’r neges, ac yn gallu pasio hwn ymlaen i’r aelod staff perthnasol. Os hoffech siarad gydag aelod o staff am rywbeth pwysig yna mae croeso i chi cael gair wrth y giât am 3yp/3.30yp, ebostio neu ffonio, neu gwneud apwyntiad, sef y drefn arferol.
- Bydd y drysau allanol yn cael eu cau a’u cloi unwaith mae’r plant wedi mynd i’w dosbarthiadau am 9 y.b. ac am 1 y.p. Os ydych yn hwyrach yn cyrraedd na’r amseroedd yma am unryw reswm yna gofynnwn i chi ddod â’ch plentyn / plant i’r brif fynedfa, a chanu’r gloch. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo i aelod o staff a ddim yn aros y tu allan i’r ysgol heb neb wedi eu gweld.
- Cofiwch os gwelwch yn dda gau giatiau’r ysgol ar y ffordd i mewn ac allan. Cofiwch hefyd nad yw’r plant i ddod i mewn drwy giatiau’r maes parcio.
- Bydd ymwelwyr yn arwyddo i mewn / allan o’r adeilad, ac yn derbyn bathodyn fel bod y plant a staff yn gwybod eu bod yn ymwelwyr swyddogol sydd wedi cael caniatad i fod yn yr adeilad neu ar dir yr ysgol.
Diolch am eich cydweithrediad parod ynglŷn â’r materion pwysig yma