Clybiau Ar Ôl Ysgol
Mae clybiau ar ôl ysgol yn cael eu cynnal ar Nosweithiau Llun, Mawrth a Mercher rhwng 3 -4.45yp. Codir ffi o 50c pob tro mae plentyn yn mynychu’r clwb a danfonir bil ar ddiwedd pob hanner tymor sydd i’w dalu drwy’r system ‘Schoolgateway’.
Mae dyddiadur gyda manylion y clybiau yn cael ei roi ar yr ap ysgol ar ddechrau pob tymor.
Clwb Llan – caiff y clwb yma ei redeg gan aelodau o’r eglwys leol. Mae’r plant yn cael clywed stori Beiblaidd a gwneud gweithgareddau crefft.
Urdd / Clwb Ffitrwydd – gemau a gweithgareddau amrywiol wedi eu trefnu gan yr athrawon.
Clybiau Garddio / Celf a Chrefft / Gemau – mae’r clybiau yman cael eu rhedeg gan Miss Evans a gwirfoddolwyr o blith y rhieni.