Gwisg Ysgol
Mae’r plant yn gwisgo gwisg ysgol sef trowsus/sgert lwyd, crys polo glas golau a chrys chwys neu gardigan glas tywyll. Mae’r cardigan, crysau chwys a pholo a chrysau-t ar gael ar gyfer Addysg Gorfforol. Gellir archebu gwisg ysgol yn uniongyrchol gan ‘Canolfan Crys-T Gwynedd’ sydd drws nesaf ond un i’r ysgol. Gallwch gysylltu â Mr Jason Hudgell, y perchennog, ar 01766 522733.